R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â bwlio mewn ysgolion yn Nyffryn Clwyd. OAQ(4)0872(FM)
2. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch sut y mae ei bolisïau yn gwella addysg yn Nwyrain De Cymru.OAQ(4)0870(FM)
3. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu gwerth am arian mewn prosiectau cynhyrchu ynni adnewyddadwy ledled Cymru. OAQ(4)0873(FM)
4. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Ardaloedd Menter yng Nghymru. OAQ(4)0877(FM)
5. Eluned Parrott (Canol De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y teithiau a gymerir ar fysiau neu ar drenau ledled Cymru. OAQ(4)0880(FM)
6. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cyfarpar Diffibrilio Allanol Awtomatig ym mhob injan dân. OAQ(4)0875(FM)
7. David Rees (Aberafan):Beth yw blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin De Cymru. OAQ(4)0882(FM)
8. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfraniad cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol at economi Cymru. OAQ(4)0871(FM)
9. Ken Skates (De Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio tai yn 2013. OAQ(4)0878(FM)
10. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Rhaglen Lywodraethu.OAQ(4)0869(FM)
11. Peter Black (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad i Faes Awyr Caerdydd o Orllewin De Cymru.OAQ(4)0874(FM)
12. Aled Roberts (Gogledd Cymru):Sut y mae myfyrwyr o Ogledd Cymru sy’n byw mewn ardaloedd a arferai fod yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn gallu cael cyllid o dan y rhaglen Ymestyn yn Ehangach. OAQ(4)0881(FM)
13. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau a yw cynllunio gofodol morol yn parhau yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. OAQ(4)0883(FM)W
14. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gydnabyddiaeth a roddir i’r unigolion hynny a fu’n gwasanaethu Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd. OAQ(4)0876(FM)
15. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru):Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Cymru yn 2013. OAQ(4)0879(FM)